Astudiaethau engreifftiol y brif rhaglen

Neuadd bentref yn sicrhau grant o £100,000 gan Ymddiriedolaeth Adnewyddu’r Meysydd Glo

New Trelawnyd Memorial HallNeuadd Goffa Newydd Trelawnyd - £100,000

Bydd neuadd gymunedol pentref yng Ngogledd Cymru, a gafodd ei daro’n wael pan gollwyd y diwydiant glofaol yn yr ardal, yn ailagor yn yr hydref ar ôl gwaith adnewyddu ar gost o £500,000 a ran-ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yng Nghymru.

Roedd Neuadd Goffa Newydd Trelawnyd, sy’n 100 oed ac yn gartref i Gôr Meibion Trelawnyd – sy’n ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau ar BBC Cymru – mewn perygl o gael ei dymchwel cyn iddi gael adnewyddiad cyflawn.

Roedd ymdrechion codi arian pwyllgor rheoli’r neuadd yn cynnwys sicrhau grant o £99,998 gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo sy’n talu am gam olaf yr adnewyddu - toiled wedi’i addasu ar gyfer yr anabl, drysau, lloriau newydd, ffitiadau, addurniadau ac ail-wifro.

Yn ganolbwynt y gymuned ers amser maith, defnyddir y neuadd gan 23 o grwpiau a darparwyr gweithgareddau, a disgwylir y bydd 14 arall yn ymuno â hwy ar ôl yr ail-agoriad, gan gynyddu cyfanswm nifer y defnyddwyr blynyddol i fwy na 2,700.

Cynhelir y seremoni agoriadol ar 18 Medi gan Sandy Mewies, AC Delyn, sydd wedi cefnogi’r prosiect o’r cychwyn. “Mae’r grant terfynol gan yr Ymddiriedolaeth yn ben llanw blynyddoedd o waith caled, ac mae gwirfoddolwyr wedi rhoi cannoedd o oriau i wneud y cynllun hwn yn llwyddiant”, meddai.

Rhoddwyd y Neuadd Goffa i’r gymuned yn 1909 a châi ei reoli’n wreiddiol gan y cyngor cymuned lleol.

Gwaethygodd ei gyflwr dros y blwyddyn ac yn dilyn cyfarfod cyhoeddus, sefydlwyd Pwyllgor Rheoli Neuadd Goffa Newydd Trelawnyd yn 2009 a’i gofrestru fel elusen i sefydlu canolfan gymunedol a’i gynnal a’i reoli.

“Y cam olaf hwn yw rhan fwyaf gweladwy yr holl gynllun a bydd yn cwblhau’r gwaith adnewyddu i safon uchel, gan annog grwpiau a gweithgareddau ychwanegol i ddefnyddio’r neuadd,” meddai Dave Smith, Ysgrifennydd y Pwyllgor Rheoli.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo - mae eu grant wedi’n galluogi i gwblhau gwaith trwsio, adnewyddu ac uwchraddio’r neuadd i’w alluogi i barhau i gael ei defnyddio fel cyfleuster gwych gan holl bobl y gymuned fel canolbwynt bywyd lleol i’r dyfodol.”

Mae gan Drelawnyd boblogaeth o tua 1,400 o bobl, ac arferai llawer ohonynt weithio yng Nglofa’r Parlwr Du, oedd ar yr arfordir gerllaw yn Nhalacre nes ei gau yn 1997. Roedd y lofa yn gyflogydd lleol pwysig, ac mae llawer o breswylwyr hŷn Trelawnyd - yn cynnwys Dai Ellis, Cadeirydd pwyllgor rheoli’r Neuadd Goffa ac aelodau eraill o’r pwyllgor - yn gyn-lowyr.

Dywedodd Dai Ellis: “Bydd y grant yn cwblhau adnewyddu’r adeilad mewn modd a fydd yn galluogi parhau i ddefnyddio’r Neuadd Goffa fel canolbwynt cymdeithasol, addysgiadol a diwylliannol cymuned Trelawnyd ac ehangu’r dewis o gyfleusterau sydd yn yr adeilad.

“Bydd hefyd yn rhoi cyfle cyfartal i bobl anabl, henoed a phobl ifanc y pentref i gael gwasanaethau, addysg a hamdden. Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo am gefnogi’r gymuned a rhoi cyfle i ni gwblhau’r gwaith o adnewyddu’r adeilad.”

Dyfarnwyd y grant i Bwyllgor Neuadd Newydd Trelawnyd drwy’r brif raglen grantiau.

 

Grant Ymddiriedolaeth yn hybu cymorth i drigolion

Homemakers Community Recycling WebsiteAilgylchu Cymunedol Homemakers - £17,900

Mae pobl sy’’n byw ar incwm isel yng Nglyn Ebwy yn cael cymorth gwerthfawr gan elusen ailgylchu sy’n gwerthu celfi ail- law gyda help gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yng Nghymru.

Yn ogystal â gwneud byw’n gysurus yn fwy fforddiadwy i bobl ym Mlaenau Gwent, mae Ailgylchu Cymunedol Homemakers hefyd yn eu helpu i gael y sgiliau i ddod o hyd i swyddi – yn ogystal â gwella’r amgylchedd drwy ostwng faint o ddeunydd aiff i domennydd llanw.

Mae Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yng Nghymru wedi dyfarnu grant o £17,900 i Homemakers i dalu am fan Luton Box i’w helpu i gasglu nwyddau swmpus a chlirio tai. Cedwir y fan ym Mlaenau Gwent a bydd yn mynd â chelfi i Replay yng Nglynebwy, ac yn dosbarthu celfi oddi yno. Ar hyn, mae cleientiaid o Flaenau Gwent yn gorfod teithio i ystafelloedd gwerthu yn y Fenni. Bydd cadw fan a storfa ym Mlaenau Gwent yn gostwng yr amser teithio a chostau i’r trigolion hyn - gan hefyd wneud leihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Fel arfer, mae Homemakers yn gwneud tua 2,500 o gasgliadau ac yn cadw tua 40 tunnell o nwyddau cartrefi o domennydd llanw mewn blwyddyn.

“Ein nod yw helpu pobl mewn angen drwy gynnig eitemau fforddiadwy megis soffas, cypyrddau dillad a gwelyau, ynghyd â llawer o eitemau celfi ail law eraill,” meddai Rob Davies, Dirprwy Reolwr Homemakers.

“Mae diweithdra yn yr ardal yn eithaf uchel. Nid yw pawb yn medru fforddio mynd allan a phrynu stwff newydd, felly mae angen dybryd am gelfi ail law y medrir eu hailddefnyddio - mae’n hollbwysig i rai pobl. Ond mae’r gwasanaeth hefyd ar agor i bawb, ac nid dim ond y rhai ar incwm isel.”

Gall y casgliadau amrywio o eitemau sengl i glirio tai cyfan. “Rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau lleol eraill i addysgu pobl am fanteision ailgylchu a chodi ymwybyddiaeth o faterion rheolaeth gwastraff cynaliadwy.”

I gael mwy o wybodaeth ar waith Homemakers, gweler eu gwefan: www.hmcrecyling.co.uk.

Dyfarnwyd grant i Homemakers drwy’r brif raglen grantiau yng Nghymru