Change text size: A | B | C
Newyddion Cymru

Newyddion Cymru 

CREU CYFLEOEDD – DATHLU 10 MLYNEDD O ADFYWIO YNG NGHYMUNEDAU MEYSYDD GLO CYMRU

Ar ran y Bwrdd Ymddiriedolwyr hoffem eich gwahodd i ddathlu 10fed pen-blwydd dyfarniadau i gymunedau ledled Cymru.

Cynhelir y derbyniad am 4.45pm ar 20 Hydref ar Lefel 5, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a bydd cyfle i chi gwrdd â phobl o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru.

Bydd yr Athro Kevin Morgan, Prifysgol Caerdydd yn ymuno â ni ac arddangosir prosiectau a wnaeth wahaniaeth i gymunedau ledled Cymru.

Byddwn yn ddiolchgar pe medrech adael i ni wybod pwy fydd yn cynrychioli eich sefydliad yn y digwyddiad hwn drwy ffonio 01443 404455 neu anfon neges e-bost at  tracy.beasley@coalfields-regen.org.uk os gwelwch yn dda.

Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac os na fyddwn wedi derbyn cadarnhad erbyn y dyddiad hwn, byddwn yn tybio na fydd modd i chi fod yn bresennol.

Cynhelir y digwyddiad hwn mewn cysylltiad â Chynhadledd Adfywio Cymru - Tuag at Bolisi ac Ymarfer Adfywio Integredig. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar http://www.iwa.org.uk/en/events/view/102

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar 20 Hydref 2010.

 

WAG Logo ERDF Wales Logo