


Sut i wneud cais am Gyllid
Y peth cyntaf sydd angen i chi wneud yw cysylltu â’n swyddfa. Bydd angen i ni wybod enw’r sefydliad fydd yn cyflwyno’r prosiect arfaethedig, lle mae’r sefydliad yn seiliedig, yr hyn a wnaiff eich prosiect, y gost, pwy fydd yn cael budd, lle bydd yn gweithredu ac arwydd o faint o gyllid a hoffech gan yr Ymddiriedolaeth.
Gall ein staff eich cynghori ar flaenoriaethau’r Ymddiriedolaeth a’r broses gais. Medrir gwneud apwyntiad gydag aelod o’r Tîm Datblygu i drafod pethau yn fanylach ac i roi help gyda’r cais os oes angen hynny. Rydym yma i’ch helpu ar bob cam o ddatblygiad y prosiect.
I ymweld ag adran ‘Gwneud cais am Gyllid’ y safle, cliciwch yma.
I gysylltu â swyddfa Cymru ffoniwch 01443 404 455

