


Yma i Chi
Swyddfa Cymru yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiad sydd gennych am yr Ymddiriedolaeth. Medrwn hefyd roi gwybodaeth ddefnyddiol am:
· Cymhwyster prosiect
· Ein themâu cyllid a rhaglenni grant
· Argaeledd cyllid
· Ffynonellau eraill o gefnogaeth
Mae’r Tîm Datblygu’n cynnal nifer o wahanol weithgareddau i hyrwyddo gwaith yr Ymddiriedolaeth ac i gefnogi grwpiau a chymunedau:
Cyfarfodydd Prosiect – bydd aelod o’r tîm yn cwrdd gyda grŵp neu brif gyswllt ar gyfer prosiect i drafod y syniad yn fanwl a’u cynghori ar y ffordd orau ymlaen.
Cymorthfeydd Un-i-Un – caiff cymorthfeydd eu rhedeg o leoliadau ym mhob rhan o’r rhanbarth, sy’n galluogi grwpiau i alw heibio a chyflwyno eu cynnig prosiect a phenderfynu os gall yr Ymddiriedolaeth helpu.
Gweithdai Cais – medrir trefnu gweithdai o’r fath a’u cyflwyno i grwpiau neu weithwyr datblygu ar y cyd i’w helpu i ddeall y broses cais ac asesu a llenwi ffurflenni cais yr Ymddiriedolaeth.
Cefnogaeth Datblygu - bydd y tîm yn cefnogi grwpiau, lle’n addas, drwy’r broses gais i sicrhau ceisiadau o safon.

