
Mae Vikki Howells AS Cwm Cynon wedi agor Hwb Cana YAMG, canolfan benodol ar gyfer cymuned Penywaun.
Bydd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo (YAMG) yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu mynediad at wasanaethau ariannol, cefnogaeth lles a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau yn Hwb Cana YAMG. Bydd y gefnogaeth a gynigir yn Hwb Cana YAMG yn cael ei siapio gan yr hyn y mae pobl Penywaun yn ddweud sydd ei angen i’w grymuso i fyw bywyd gwell.
Bydd cyfrifiaduron a mynediad Wi-Fi ar gael i wella sgiliau digidol. Yn nes ymlaen yn y flwyddyn, bydd Hwb Cana YAMG yn darparu lleoliad ar gyfer project newydd i gefnogi pobl yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sydd wedi eu heffeithio gan Ganser, a fydd yn cael ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo mewn partneriaeth gyda Chefnogaeth Canser Macmillan
Am fwy o wybodaeth neu i archebu un o’r gwasanaethau a gynigir yn Hwb Cana YAMG, ffoniwch 01495 367680 neu e-bostio wales@coalfields-regen.org.uk.
Mae Ymddiriedolaeth adfywio’r Meysydd Glo (YAMG) wedi ymroi i ffyniant a chyfleoedd yn hen ardaloedd y meysydd glo ar hyd Cymru. Galluogodd rhaglen trosglwyddo asedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) YAMG i gymryd Canolfan CANA.
Ers mis Tachwedd 2021, mae YAMG wedi adnewyddu ac ailwampio Hwb Cana YAMG gyda chyllid o £153,010 o Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, £124,258 o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol llywodraeth y DU, £65,718.50 o Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd a chyfraniad hael o ddodrefn ac offer TG gan General Dynamics UK.
Gallwch glywed y diweddaraf ar Hwb Cana YAMG ar dudalen Facebook YAMG Cymru (@CRTWales).
Dwedodd Michelle Rowson-Woods, Pennaeth Gweithrediadau Cymru Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo:
“Mae Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn credu mewn diogelu cyfleusterau cymunedol sy’n chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu mynediad at wasanaethau lleol a chefnogi cymunedau’r hen feysydd glo.
“Rydym yn gwybod cymaint y mae Hwb Cana YAMG yn ei olygu i bobl Penywaun, ac rydym yn hynod falch ei weld yn cael ei agor eto.”
Dwedodd Vikki Howells AS Cwm Cynon:
“Mae wedi bod yn bleser agor Hwb Cana YAMG a gweld sut bydd pobl y gymuned leol yn elwa ohono.
“Mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi projectau sy’n darparu cyfleoedd i bobl wella eu bywydau o ddydd i ddydd.”
Dwedodd Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol -Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd:
“Roeddem yn ymwybodol o’r cynlluniau ers tro ac yn falch iawn o weld y buddsoddiad yma ym Mhenywaun. Pan sylweddolom fod bwlch yn y cyllid roeddem yn falch o allu gwneud penderfyniad cyflym i gefnogi’r project.
“Mae’r gronfa wedi ymroi i ddatblygu a chadw adeiladau cymunedol a datblygu sgiliau, hyfforddiant ac addysg sy’n berthnasol i gymdeithas sy’n newid.”
Dwedodd y Cynghorydd Bob Harris, Aelod y Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Rydym yn falch o fod wedi chwarae ein rhan wrth greu Hwb Cana YAMG trwy gefnogi trosglwyddo’r adeilad i Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo trwy ein dull Trosglwyddo Asedau Cymunedol RhCT Gyda’i Gilydd yn 2021. Bydd y cyfleusterau cymunedol newydd hwn yn help i gefnogi cymuned Penywaun. Hoffem ddiolch i Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a phartneriaid eraill am eu hymroddiad i’n cymunedau.
“Bydd Hwb Cana YAMG yn darparu lleoliad penodol i gynnig hyfforddiant a chyfleoedd i’r gymuned a fydd yn ei dro yn cysylltu gyda chyflogwyr lleol a chyfleoedd gwirfoddoli i breswylwyr.
“Mae Cyngor RhCT wedi ymroddi i adfywio ein cymunedau ac ardaloedd yr hen feysydd glo, gan wella sgiliau, sicrhau gwaith a’r broses o gefnogi pobl i wella iechyd a lles ac i ffynnu.
“Roed hon yn bartneriaeth unigryw a llwyddiannus, y gobeithiwn fydd yn datblygu yn enghraifft i brojectau tebyg eraill.”
Dweodd Lynne Austin, Cyfarwyddwr Cyfleusterau Rhyngwladol & Gweithrediadau yn y DU, General Dynamics United Kingdom Limited:
“Mae General Dynamics UK wedi ymroddi i roi yn ôl i gymunedau yr ydym yn byw a gweithio ynddynt.
“Rydym yn falch o chwarae rhan fechan wrth helpu Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo wrth iddynt ail agor Hwb Cana YAMG yn swyddogol i ddarparu cefnogaeth hanfodol bwysig i gymuned Penywaun.”
Dwedodd Beth Winter AS, Aelod Seneddol Cwm Cynon a chyn gweithiwr yng Nghanolfan CANA:
“Roeddwn i’n caru gweithio fel gweithiwr cymunedol yng nghanolfan CANA, ac mae ailagor yr adeilad wedi fy atgoffa o lawr o atgofion ffantastig o fy amser ym Mhenywaun.
“ Mae Penywaun yn gymuned groesawgar a chynnes gyda llawer i’w gynnig a chymaint o botensial.
“Mae e’r lleoliad perffaith ar gyfer Hwb yr Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth y bydd Hwb Cana YAMG yn ei wneud yn y blynyddoedd sydd i ddod.”