LANSIO’R MAP FFORDD CYFREITHIOL CYNTAF I GEFNOGI PROSIECTAU YNNI CYMUNEDOL YNG NGHYMRU

Mae Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo wedi dadorchuddio’r map ffordd cyfreithiol cyntaf erioed i gefnogi’r dasg o greu prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned. Ei nod yw helpu cymunedau i harneisio buddion amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol a gweithio tuag at gyflawni’r targedau adnewyddadwy uchelgeisiol a osodwyd gan Gymru.

Mae’r adroddiad “Strwythurau Cyfreithiol ar gyfer Prosiectau Ynni Cymunedol” wedi’i lansio fel rhan o Bythefnos Ynni Cymunedol (13-28 Mehefin). Cydlynir y digwyddiad gan Community Energy England ac mae’r ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar y thema Harneisio Ein Hynni Ni.  Yn sgil hyn, bydd sefydliadau a chefnogwyr ynni cymunedol yn dod at ei gilydd ac yn tynnu sylw at yr ymateb ysbrydoledig ac addasol a gafwyd i ddatblygiad y sector hwn.

Mae’r adroddiad cynhwysfawr yn darparu arweiniad amhrisiadwy i’r grwpiau hynny sydd wedi ymrwymo i harneisio’r pŵer a ddaw o ynni adnewyddadwy er mwyn creu newid parhaol yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar hyd a lled y DU.

Meddai Alun Taylor, Pennaeth Gweithrediadau (Cymru) o Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo: “Mae potensial enfawr i brosiectau ynni sy’n eiddo i’r gymuned. Maen nhw nid yn unig yn cefnogi adfywiad yn yr hen feysydd glo ond maen nhw hefyd yn helpu Cymru i gyflawni’i thargedau uchelgeisiol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn 2030. Serch hynny, dim ond trwy reolaeth gadarn y gellir cyflawni hyn.

“Gall y cynlluniau hyn fod ar sawl ffurf gyfreithiol ac maen nhw’n amrywiol ac yn astrus, felly gall dewis y strwythur cywir fod yn gymhleth. Mae hyn yn heriol gan nad oes fawr ddim arweiniad ar gael ar hyn o bryd, os o gwbl. Trwy gomisiynu arbenigwyr yn y diwydiant i gymharu’r gwahanol strwythurau cyfreithiol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol, rydyn ni’n darparu adnodd hanfodol a gwerthfawr sy’n hawdd ei gyrraedd trwy ein gwefan.”

Mae Cymru, yn benodol, yn disgwyl i bob cynllun ynni adnewyddadwy gynnwys elfen o berchnogaeth leol erbyn diwedd 2020. Mae hyn yn rhan o darged uchelgeisiol y wlad i gynhyrchu 70 y cant o’i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.

Meddai Robert Proctor, Rheolwr Datblygu Busnes Ynni Cymunedol Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r gwaith hynod werthfawr a wnaed gan yr Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo. Mae datblygu prosiect ynni cymunedol yn wirioneddol heriol ac yn aml, mae penderfynu pa strwythur cyfreithiol sy’n iawn i’ch prosiect yn gam anodd. Bydd hyn yn werthfawr iawn i gymunedau yng Nghymru, gan fod llawer ohonyn nhw’n meddu ar gysylltiadau cryf â’r hen ardaloedd glofaol.”

Gan gydnabod yr angen brys, comisiynodd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ymgynghorwyr blaenllaw yn y sectorau elusennol a chymdeithasol, sef Cyfreithwyr Wrigleys, i ddarparu map ffordd cynhwysfawr i lywio’r materion cyfreithiol.

Mae’r adroddiad “Strwythurau Cyfreithiol ar gyfer Prosiectau Ynni Cymunedol” yn nodi’r mathau amrywiol o strwythurau cyfreithiol, yn cyflwyno dadansoddiad cadarn o’u nodweddion unigryw, ac yn archwilio manteision ac anfanteision cymharol pob un ohonynt o ran eu defnyddio ar gyfer prosiectau ynni cymunedol.

Meddai Alun eto: “Mae galw sylweddol ar gymunedau i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol i lansio ffyrdd amgen o greu cefnogaeth ariannol. Mantais hyn yw y gellir rhoi’r enillion yn ôl i helpu adfywiad yr hen gymunedau glofaol.

“Unwaith fydd y pŵer a’r rheolaeth am y prosiectau ynni adnewyddadwy hyn wedi’u trosglwyddo’n llwyddiannus i’r trigolion lleol, fe gân nhw ynni glân a fforddiadwy a chyfle i gynhyrchu incwm dros ben. Yn y bôn, gellir ail-fuddsoddi’r cronfeydd hyn yn ôl i’r cymunedau a’u defnyddio i amddiffyn asedau a gwasanaethau lleol.”

Ychwanegodd Alun: “Mae datblygu partneriaethau hirhoedlog â busnesau sy’n eiddo i’r gymuned wrth wraidd ein gwaith, yn enwedig o ran iechyd a llesiant ein trigolion lleol. Credwn y gall prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned fod yn gatalydd mawr i wella’r ffordd y mae llawer o bobl yn byw yn y rhanbarthau hyn. Byddwn yn parhau i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen i wireddu’r prosiectau hyn.”

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ym 1999 a dyma’r unig sefydliad sydd wedi ymroi i gefnogi trefi a phentrefi a fu gynt yn rhai glofaol.

I gael copi o’r adroddiad, “Strwythurau Cyfreithiol ar gyfer Prosiectau Ynni Cymunedol”, ewch i: https://www.coalfields-regen.org.uk/wp-content/uploads/2020/06/Strwythurau-Cyfreithiol-ar-Gyfer-Prosiectau-Ynni-Cymunedol.pdf.

Os hoffech fanylion pellach am raglenni ehangach y mentrau a ddatblygwyd i fodloni’r tair blaenoriaeth ar gyfer gweithredu, sef cyflogaeth, sgiliau ac iechyd/llesiant, ewch i: https://www.coalfields-regen.org.uk

Share this article: