
YAMG Gyda’n Gilydd (CRT Together yn Saesneg) yw’r rhaglen a ddarparwn mewn partneriaeth â Chefnogaeth Ganser Macmillan
Sefydlwyd y rhaglen gyda’r nod o gefnogi pobl sydd â chanser ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a thri chwm Ogwr, Llyfni a Garw, sydd o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Gall bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser ymuno ag YAMG Gyda’n Gilydd (CRT Together) – unai drwy gysylltu â ni eich hun – neu oherwydd bod sefydliad arall yn eich cyfeirio atom.
Yn dilyn Asesiad Anghenion Cyfannol, gallwn greu cynllun gofal personol, fydd yn gymorth i’ch cysylltu chi gyda nifer o wasanaethau cefnogol o fewn ardal Cwm Taf Morgannwg, gan ganolbwyntio ar eich anghenion chi. Gall ein gweithwyr cyswllt eich cefnogi chi i ddod i gysylltiad â nifer o wasanaethau yn cynnwys:
– Trafnidiaeth
– Cyngor Ariannol
– Cymorth i Deuluoedd
– Anghenion Tai
Gyda’n gilydd gallwn wella’r daith ganser, drwy gwrdd yn rheolaidd a drwy fod gyda chi drwy gydol eich taith. Pa un ai bod yn well gennych gysylltu â ni drwy alwad ffôn gyfeillgar, neges destun neu e-bost – dewiswch chi!
Gallwch ffonio neu anfon neges destun at y tîm YAMG Gyda’n Gilydd (CRT Together) drwy ddefnyddio’r rhif hwn 07561 857803.
Neu gallwch anfon e-bost at together@coalfields-regen.org.uk
Os oes angen cefnogaeth arnoch y tu hwnt i oriau swyddfa gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Macmillan drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0808 808 00 00.